Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 14 Gorffennaf 2021
Amser:
09.15 -
10.08
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12401
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Siân Gwenllian AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Sian Thomas (Ymchwilydd) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Phil Boshier (Ymchwilydd) Catherine McKeag (Rheolwr Ymgysylltu â Dinasyddion) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Chweched Senedd.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Ken Skates AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.
2 Cylch gwaith y Pwyllgor
6.2 Nododd yr Aelodau y cylch gwaith.
3 Papurau i’w nodi
Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Fforwm y Cadeiryddion
Adroddiad Gwaddol y Bumed Senedd – CYPE(6)-01-21 – Papur i'w nodi 1
3.2 Effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc
Adroddiad Gwaddol Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bumed Senedd – CYPE(6)-01-21 – Papur i'w nodi 2
3.3 Effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc
Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad terfynol Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bumed Senedd - CYPE(6)-01-21 - Papur i'w nodi 3
3.4 Iechyd meddwl amenedigol
Llythyr gan y cyn Weinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – CYPE(6)-01-21 – Papur i’w nodi 4
3.5 Addysg heblaw yn yr ysgol
Llythyr gan y cyn Weinidog Addysg – CYPE(6)-01-21 – Papur i’w nodi 5
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod am weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Gweithdrefnau'r pwyllgor a ffyrdd o weithio
5.1 Nododd yr Aelodau'r Rheolau Sefydlog sy'n llywodraethu busnes pwyllgor a'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi'r Pwyllgor yn ei waith.
5.2 Bu'r Aelodau'n trafod ac yn cytuno ar ddull cychwynnol o:
- Drefnu busnes, gan gynnwys amseroedd a fformatau’r cyfarfod.
- Cyfleoedd hyfforddi a datblygu.
- Briffiau pwyllgor a dewisiadau iaith.
6 Dull gweithredu strategol o ran cylch gwaith y Pwyllgor
6.1 Cytunodd yr Aelodau i ymgymryd â gweithgarwch yn nhymor yr hydref i ddatblygu a mabwysiadu dull strategol o wneud gwaith pwyllgor.
6.2 Nododd yr Aelodau bwysigrwydd:
- Sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed mewn gwaith pwyllgor.
- Mynd ar drywydd cyfleoedd i weithio ar y cyd â phwyllgorau eraill, lle bo hynny'n briodol.
7 Gweithgarwch cynnar y Pwyllgor
7.1 Cytunodd yr Aelodau i lansio ymgynghoriad â rhanddeiliaid dros yr haf gan wahodd safbwyntiau ar beth ddylai blaenoriaethau'r pwyllgor fod, i lywio ei gynllun strategol a'i raglennu gwaith tymor hwy. Byddai'r dyddiad cau ar ôl gwyliau'r ysgol gan ganiatáu cyfle i bobl mewn ysgolion gyfrannu.
7.2 Cytunodd yr Aelodau hefyd i gynnal gweithgarwch ymgysylltu wedi'i deilwra gyda phlant a phobl ifanc yn nhymor yr hydref, i ofyn am eu safbwyntiau ar flaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd.
7.3 Bu'r Aelodau'n trafod ac yn cytuno i wahodd y Gweinidog Addysg a'r Gweinidog/Dirprwy Weinidog Iechyd i gyfarfod cyntaf tymor yr hydref, i drafod eu blaenoriaethau. Nododd yr Aelodau yr angen i gysylltu â'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn osgoi unrhyw wrthdaro a achosir gan amserlen y pwyllgor. Gofynnir am bapur ysgrifenedig ymlaen llaw i lywio'r sesiwn.
7.4 Cytunodd yr Aelodau i gyhoeddi prif raglen waith ar sail dreigl.